YMA O HYD
Dwyt ti'm yn cofio Macsen
Does neb yn ei nabod o;
Mae mil a chwe chant o flynyddoedd
Yn amser rhy hir i'r cof;
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri
A'n gadael yn genedl gyfan
A heddiw: wele ni!
[Cytgan:]
Ry'n ni yma o hyd
Ry'n ni yma o hyd
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd
Ry'n ni yma o hyd
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Ry'n ni yma o hyd
Chwythed y gwynt o'r Dwyrain
Rhued y storm o'r môr
Hollted y mellt yr wybren
A gwaedded y daran encôr
Llifed dagrau'r gwangalon
A llyfed y taeog y llawr
Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas
Ry'n ni'n barod am doriad y wawr!
Y BRAWD HOUDINI
La la, la la la la la, la la la la la la la
O, mi wena'r haul yn y pwll glo
Beth am botel o gwrw?
O, mae gennai bres, ond mae'r mwg a tes
Yn troi pob un yn feddw
Mor unig ar y llinyn tyn
Yn troedio'r eangderau
O, dim ond fi a'r brawd Houdini'n
Cerdded lan i'r nefoedd
La la, la la la la la, la la la la la la la
LAWR AR LAN Y MOR
Mi gwrddais i â merch fach ddel
Lawr ar lan y môr (tair gwaith)
Mi gwrddais i â merch fach ddel
Lawr ar lan y môr (dwywaith)
Cytgan:
O, rwy'n dy garu di (dwywaith)
Yr eneth ar lan y môr
O. rwy'n dy garu di (dwywaith)
Yr eneth ar lan y môr
Gofynnais i am gusan fach, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (tair gwaith)
Gofynnais i am gusan fach, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (dwywaith)
(Cytgan)
Mi gefais i un gusan fach, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (tair gwaith)
Mi gefais i un gusan fach, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (dwywaith)
(Cytgan)
Rhyw ddiwrnod fe'i priodaf hi, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (tair gwaith)
Rhyw ddiwrnod fe'i priodaf hi, Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr (dwywaith)
MOLIANNWN
Nawr lanciau, rhoddwn glod,
y mae'r gwanwyn wedi dod,
Y gaeaf a'r oerni aeth heibio
daw y coed i wisgo'u dail,
A mwyniant mwyn yr haul
a'r ŵyn ar y dolydd i brancio
Cytgan:
Moliannwn oll yn llon,
mae amser gwell i ddyfod, Haleliwia
Ac ar ôl y tywydd drwg,
fe wnawn arian fel y mwg
Mae arwyddion dymunol o'n blaenau.
Ffa la la, ffa la la, Ffa, la la, la la la la. (x2)
Daw'r Robin Goch yn llon
i diwnio ar y fron
a cheiliog y rhedyn i ganu
A chawn glywed wiparwhil
a llyffantod wrth y fil
O'r goedwig yn mwmian chwibanu.
(Cytgan)
Fe awn i lawr i'r dre',
gwir ddedwydd fydd ein lle
A chawn lawnder o ganu ac o ddawnsio,
A chwmpeini naw neu ddeg
o enethod glân a theg
Lle mae mwyniant y byd yn disgleirio
(Cytgan)