CROESO I
TANYGRAIG
Ysgubor cerrig hardd, wedi'i amgylchynu gan fryniau godidog,Â
ar gael i'w logi ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.
sef. 2023
Lleolir Tanygraig yn Llanfarian, ger Aberystwyth. Adeiladwyd y fferm yn y 19eg ganrif ac mae'r hen adeiladau cerrig gwreiddiol yn hollol unigryw. O haf 2023, gallwch chi hefyd fwynhau hud Tanygraig...
YR YSGUBOR
Mae'r ysgubor Tanygraig yn cynnwys 4 rhan wedi'u cysylltu gan fwâu cerrig hardd.
Y DDERBYNFA
Gellir defnyddio'r gofod hwn fel y dymunwch. Mae'n man i westeion i gymdeithasu a mwynhau, neu yn lle ar gyfer gemau neu bŵth lluniau neu mochyn rhost... Mae hyd yn oed digon o le ar gyfer castell neidio! Mae'r opsiynau yn ddi-ddiwedd
Y GWLEDDA
Mae ein byrddau a chadeiriau pren yn gallu eistedd hyd at 200 o westeion.
Bwytewch a llawenhewch!
LLE I YFED A MWYHAU!
Yn y gofod yma mae yna lwyfan i'ch adloniant a bar wedi'i staffio ar gyfer diwrnod eich priodas.
Y CWTCH
Dyma ofod bach clyd oddi ar y brif ysgubor, lle gallwch ymlacio a mwynhau y golygfeydd godidog o'r bryniau cyfagos.
SUT MAE PRIODAS YN NHANYGRAIG YN GWEITHIO?
Gwnewch eich priodas yn bersonol ac yn unigryw
Mae gan gyplau sy'n llogi'r ysgubor ar gyfer eu priodas fynediad i'r adeilad am 4 diwrnod cyn eu diwrnod mawr. Mae hyn yn golygu bod yna ddigonedd o amser i addurno a rhoi stamp eich hun ar yr adeilad unigryw! Ni fydd unrhyw briodas yr un peth!
PAM CAEL EICH PRIODAS YN NHANYGRAIG?
Rhag ofn bod angen mwy o berswad arnoch chi ...
IECHYD DA!
Nid ydym yn codi ffioedd 'corkage' yma yn Nhanygraig, felly gallwch fwynhau eich hoff ddiod ar ddiwrnod eich priodas.
CROESO I FFRINDIAU FFWR!
Rydyn ni'n ddwl am gŵn, a dyna pam rydyn ni'n caniatáu i hyd at ddau o'ch ffrindiau ffwr i ymuno â chi yma yn Nhanygraig. Wedi'r cyfan, pam ddylen nhw golli allan ar eich diwrnod mawr?!
ARLWYO
Nid ydym yn cynnig arlwyo yma yn Nhanygraig, felly gallwch fwyta beth bynnag y dymunwch ar ddiwrnod eich priodas!
Gallwn argymell rhai arlwywyr lleol gwych a all ddarparu ar gyfer eich holl anghenion.
GWNEWCH Y MWYA O GEFN GWLAD CEREDIGION
Mae gan barau sy'n dewis cael eu gwledd priodas yma yn Nhanygraig fynediad i'r caeau a'r goedwig ar y fferm. Bydd golygfeydd dros Aberystwyth a bae Ceredigion yn gefndir perffaith i’ch lluniau priodas.
LLETY
Nid oes gennym lety yn Nhanygraig, ond mae gennym ni digonedd o gaeau... Felly, mae'r pris llogi yn cynnwys ardal i wersylla.
ADDURNIADAU
Pan fyddwch yn llogi'r ysgubor, cewch fynediad i'r lle am 6 diwrnod (4 diwrnod cyn y briodas i addurno'r lle fel y dymunwch, diwrnod y briodas a'r diwrnod trannoeth).
AMDANOM NI
Ers 2010, mae Dyfrig wedi bod yn ffermio ochr yn ochr â’i rieni yma yn Nhanygraig. Pan ddyweddïodd â Emily, fe benderfynon nhw gynnal eu gwledd briodas yn y brif ysgubor. Er fod y lle wedi cael ei ddefnyddio i gadw anifeiliaid ers dros 100 mlynedd, gyda llawer o help gan deulu a ffrindiau, daeth eu gweledigaeth yn realiti! Ar y 24ain o Fedi 2022, cafwyd y diwrnod gorau!
Wedi hynny, penderfynwyd na fyddai’r defaid yn dychwelyd i’r ysgubor er mwyn i bawb arall gael y cyfle o fwynhau’r adeilad unigryw hwn.Â
Maent bellach yn rhedeg y busnes bach hwn gyda'u teulu, tra hefyd yn gweithio fel ffermwr ac i'r GIG.
BLE I DDOD O HYD I NI
Mae Tanygraig ar y ffordd rhwng Llanfarian a Llanilar. Unwaith gyrhaeddwch chi'r lôn - daliwch ati i fynd i hyd at ddiwedd y ffordd pan welwch yr adeiladau godidog wrth droed y graig.
Tanygraig,
Llanfarian,
Aberystwyth,
SY23 4NN
​
Cliciwch ar y linc isod i'n darganfod ar 'google maps':
CYSYLLTWCH
Gofynnwch am bris i'ch priodas delfrydol